2019 Rhif (Cy. )

ymadael â’r undeb ewropeaidd, Cymru

ANIFEILIAID, Cymru

iechyd anifeiliaid

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, sy’n berthnasol i’r fasnach mewn anifeiliaid a chynhyrchion perthynol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 


2019 Rhif (Cy. )

ymadael â’r undeb ewropeaidd, Cymru

Anifeiliaid, Cymru

iechyd anifeiliaid

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni                ***

Gwnaed                                                 ***

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008

2.(1) Diwygir Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008([2]) fel a ganlyn.

(2) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)     yn lle “CE”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “trwyddedig” (gan dreiglo yn ôl yr angen).

(3) Yn rheoliad 2(1)—

(a)     yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “trwyddedig” (“licensed”) yw wedi ei drwyddedu gan Weinidogion Cymru”;

(b)     yn y diffiniad o “mangre brosesu sydd heb ei thrwyddedu” (“unlicensed processing premises”)”, ym mharagraff (a)(ii) yn lle “y fasnach ryng-Gymunedol” rhodder “masnach ag Aelod-wladwriaeth”.

(4) Yn rheoliad 3—

(a)     ym mharagraff (2), yn y geiriau ar ôl is-baragraff (c), yn lle “masnach ryng-Gymunedol” rhodder “masnach ag Aelod-wladwriaeth”; a

(b)     hepgorer paragraff (4).

(5) Yn rheoliad 4—

(a)     ym mharagraff (b), yn is-baragraff (i) a (ii), yn lle “masnach ryng-Gymunedol” rhodder “masnach ag Aelod-wladwriaeth”;

(b)     ym mharagraff (c), yn is-baragraff (i) a (ii), yn lle “masnach ryng-Gymunedol” rhodder “masnach ag Aelod-wladwriaeth”.

(6) Yn rheoliad 29(c), yn lle “o Aelod-wladwriaeth arall neu o drydedd wlad” rhodder “o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig”.

(7) Yn rheoliad 30—

(a)     yn lle’r pennawd rhodder “Y fasnach mewn semen i Aelod-wladwriaeth”;

(b)     ym mharagraff (1)—

                            (i)    yn y geiriau cyn is-baragraff (a), yn lle “ar gyfer masnach ryng-Gymunedol” rhodder “i Aelod-wladwriaeth”;

                          (ii)    yn is-baragraff (b), yn lle “o Aelod-wladwriaeth arall neu a fewnforir o drydedd wlad yn unol â’r Gyfarwyddeb” rhodder “o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig”;

(c)     ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau “ar gyfer masnach ryng-Gymunedol” hyd at y diwedd, rhodder “i Aelod-wladwriaeth sicrhau bod y dystysgrif iechyd anifeiliaid fel y’i cyhoeddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd yn mynd gydag ef.”

(8) Yn rheoliad 38(1), hepgorer “arall”.

(9) Yn Atodlen 3—

(a)     yn Rhan 2—

                            (i)    ym mharagraff 2—

(aa)        yn is-baragraff (1), yn lle “gyflenwi ar gyfer masnach ryng-Gymunedol” rhodder “osod ar y farchnad”;

(bb)        yn is-baragraff (2), yn lle “ni chaiff fod yn destun masnach ryng-Gymunedol” rhodder “ni chaniateir iddo gael ei osod ar y farchnad”;

                          (ii)    ym mharagraff 3, yn lle “ryng-Gymunedol” rhodder “ag Aelod-wladwriaeth”;

(b)     yn Rhan 3, ym mharagraffau 1(b)(i) ac (c), yn lle “ryng-Gymunedol” rhodder “arall”.

(10) Yn Atodlen 5, yn Rhan 3, ym mharagraff 1—

(a)     yn is-baragraff (a)(ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall”, rhodder “mewn Aelod-wladwriaeth”;

(b)     yn is-baragraff (b), yn lle’r geiriau o “marciau” hyd at y diwedd rhodder “marciau amlwg sy’n wahanol i’r marciau a ddefnyddir mewn canolfannau casglu a chanolfannau storio trwyddedig”.

(11) Yn Atodlen 8, yn Rhan 1, yn is-baragraffau (a)(ii) a (b)(ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”.

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

3.(1) Diwygir Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011([3]) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “system Traces yr UE” (“EU Traces system”) yw’r system Traces a sefydlwyd o dan Benderfyniad y Comisiwn 2004/292/EC([4]) (ar gyflwyno’r system Traces ac yn diwygio Penderfyniad 92/486/EEC);”;

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad heblaw Ynysoedd Prydain neu Aelod-wladwriaeth.

(3) Yn rheoliad 4, yn lle “rhwng Aelod-wladwriaethau” rhodder “ag Aelod-wladwriaethau yn unol â’r cytundebau hynny”.

(4) Yn Rhan 2, yn y pennawd, yn lle “Symud rhwng” rhodder “Mewnforio o”.

(5) Yn rheoliad 5—

(a)     yn lle’r pennawd, rhodder “Mewnforio anifeiliaid a deunydd genetig o Aelod-wladwriaethau”;

(b)     ym mharagraff (1), yn lle’r geiriau o “i unrhyw” hyd at y diwedd, rhodder “dod ag unrhyw anifail na deunydd genetig i Gymru o Aelod-wladwriaeth oni bai bod tystysgrif iechyd berthnasol ar gyfer yr anifail neu’r deunydd genetig hwnnw wedi ei chwblhau ac wedi ei llofnodi yn dod gydag ef.”

(6) Hepgorer rheoliad 6.

(7) Yn rheoliad 7—

(a)     yn y pennawd, yn lle “rhwng Aelod-wladwriaethau”, rhodder “i Gymru”.

(b)     hepgorer paragraff (1);

(c)     ym mharagraff (2)—

                            (i)    hepgorer y gair “arall”; a

                          (ii)    ar ôl y geiriau “Gweinidogion Cymru” mewnosoder “drwy’r system hysbysu ynghylch mewnforion sy’n disodli system Traces yr UE yn y Deyrnas Unedig”.

(8) Yn rheoliad 11—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “y Comisiwn Ewropeaidd” rhodder “Gweinidogion Cymru”;

(b)     ym mharagraff (4)—

                            (i)    hepgorer y geiriau o “a geir” hyd at “eu trefnu)”; a

                          (ii)    hepgorer y geiriau o “a hysbysu’r” hyd at “drosto”.

(9) Yn rheoliad 12(4), ar ôl y gair “gymeradwyaeth” mewnosoder “gan Weinidogion Cymru”.

(10) Yn rheoliad 14—

(a)     ym mharagraff (1), ar ôl y gair “ffin” mewnosoder “drwy’r system ar gyfer hysbysu ynghylch mewnforion sy’n disodli system Traces yr UE yn y Deyrnas Unedig”;

(b)     ym mharagraff (2), ar ôl y gair “ffin” mewnosoder “drwy’r system ar gyfer hysbysu ynghylch mewnforion sy’n disodli system Traces yr UE yn y Deyrnas Unedig”;

(c)     ym mharagraff (4), hepgorer y gair “arall”.

(11) Yn rheoliad 15—

(a)     ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) At ddibenion paragraff (1)(a), mae Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC i gael ei darllen fel pe bai “retained EU law” wedi ei roi yn lle’r cyfeiriadau at “Community legislation” ym mharagraff 4(a)(i) a (b)(i).”

(b)     ar ôl paragraff (1A), mewnosoder—

(1B) At ddibenion paragraff (1)(b), mae Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC i gael ei darllen fel pe bai—

(a)   ym mharagraff 1—

                       (i)  y cyfeiriad at “Member States” yn gyfeiriad at “The Welsh Ministers”;

                      (ii)  yn yr ail indent, y geiriau o “at Community level” hyd at ddiwedd yr indent hwnnw wedi eu hepgor;

                     (iii)  yn y trydydd indent, “Community rules” wedi ei ddisodli gan “retained EU law”;

                     (iv)  yn yr indent olaf, y geiriau o “through” hyd at ddiwedd yr indent hwnnw wedi eu hepgor;

(b)   ym mharagraff 2—

                            (i)    yn is-baragraff (b), bod “retained EU law” wedi ei roi yn lle “Community rules”;

                          (ii)    yn is-baragraff (d), y geiriau “For the purposes of” hyd at “his direction” wedi eu hepgor;

(c)   paragraff 5 wedi ei hepgor.; ac

(c)     ym mharagraff (4)—

                            (i)    yn is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “y rhestri” hyd at y diwedd rhodder “rhestr o drydydd gwledydd a gymeradwywyd, neu os gwaherddir mewnforion o’r diriogaeth honno fel arall”;

                          (ii)    yn is-baragraffau (b) ac (c), yn lle “yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”;

                        (iii)    yn is-baragraff (d) yn lle “deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “cyfraith yr UE a ddargedwir”.

(12) Yn rheoliad 18—

(a)     ym mharagraff (2), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”; a

(b)     hepgorer paragraff (4).

(13) Yn rheoliad 20(1)(b), yn lle “y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i drydedd wlad”.

(14) Yn lle rheoliad 22(1) rhodder—

(1) Os bydd gwiriadau milfeddygol yn datgelu bod cynhyrchion trydedd wlad yn gysylltiedig â thorcyfraith difrifol neu fynych o ran unrhyw ofyniad mewnforio, neu pan fo’r gwiriadau hynny yn datgelu bod y lefelau gweddillion uchaf yn uwch na’r hyn a ganiateir, caiff Gweinidogion Cymru gymhwyso’r rheoliad hwn at gynhyrchion tebyg dilynol y deuir â hwy i Gymru o drydedd wlad benodol, rhan o drydedd wlad neu sefydliad penodol nes eu bod wedi eu bodloni nad oes rhagor o dorcyfraith yn digwydd.

(15) Yn rheoliad 23—

(a)     ym mharagraff (1)(c), hepgorer “, y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd”; a

(b)     ym mharagraff (3)(b), hepgorer “y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd”.

(16) Yn rheoliad 27—

(a)     ym mharagraff (1), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;

(b)     ym mharagraff (3)(a), hepgorer “yn yr Aelod-wladwriaeth”.

(17) Yn rheoliad 33(2), hepgorer “, gan gynnwys unrhyw gynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd”.

(18) Yn rheoliad 35—

(a)     yn y pennawd a pharagraff (1), hepgorer “arall”;

(b)     yn lle paragraff (2)(c), rhodder—

(c) dychwelyd yr anifeiliaid neu’r deunydd genetig i’r Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy neu yr anfonwyd ef ohoni, gydag awdurdodiad yr awdurdod cymwys, a hynny ar ôl hysbysu unrhyw Aelod-wladwriaeth y byddant neu y bydd yn mynd drwyddi ymlaen llaw.”

(19) Yn rheoliad 39, yn y tabl—

(a)     yng ngholofn 1, hepgorer “rheoliad 6(5)” a’r cofnod cyfatebol yng ngholofn 2;

(b)     yng ngholofn 1, hepgorer “rheoliad 6(6)” a’r cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.

(20) Diwygir Atodlen 2 yn unol â pharagraffau (21) a (22).

(21) Yn Rhan 1—

(a)     yn y pennawd, yn lle “masnach rhwng” rhodder “mewnforion o”;

(b)     ym mharagraff 2(1), yn lle “rhwng” rhodder “o”;

(c)     hepgorer paragraff 3;

(d)     ym mharagraff 4, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a) hepgorer “sy’n ymwneud â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau”;

(e)     ym mharagraff 5—

                            (i)    yn lle is-baragraff (1), rhodder—

(1) Ni chaiff neb fewnforio epa, (simia a prosimian) oni bai ei fod yn dod o ganolfan a gymeradwywyd gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth a’i fod wedi ei fwriadu ar gyfer canolfan a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (“Cyfarwyddeb Balai”).”;

                          (ii)    ar ôl is-baragraff (1), mewnosoder—

(1A) Mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i is-baragraff (1B).”

                        (iii)    ar ôl is-baragraff (1A), mewnosoder—

(1B) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi corff cymeradwy yn ysgrifenedig i gaffael epa gan unigolyn.”

                        (iv)    yn is-baragraff (2), ar y diwedd mewnosoder “(gan ddarllen cyfeiriadau yn Erthygl 13 at Aelod-wladwriaeth a gyrchir fel cyfeiriad at Gymru, darllen cyfeiriad at awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth fel cyfeiriad at Weinidogion Cymru, a chan hepgor paragraffau 2(d) ac (e)).”

                          (v)    yn is-baragraff (3), ar y diwedd mewnosoder “(gan ddarllen cyfeiriadau ym mhwynt 6 o Atodiad C at yr awdurdod cymwys fel cyfeiriad at Weinidogion Cymru, darllen cyfeiriadau at ddeddfwriaeth Gymunedol fel cyfeiriadau at gyfraith yr UE a ddargedwir, a chan hepgor paragraff (d) o bwynt 6).”;

                        (vi)    yn is-baragraff (4), yn lle’r geiriau o “rhwng Aelod-wladwriaethau” hyd at y diwedd, rhodder “mewn ofa ac embryonau rhywogaethau’r ddafad, yr afr a’r ceffyl a semen rhywogaethau’r ddafad, yr afr a’r ceffyl a semen moch.”;

                      (vii)    hepgorer is-baragraff (5);

(f)      yn lle paragraff 6(3) rhodder—

(3) Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 10(1) o’r Rheoliad Comisiwn hwnnw (hysbysiad o symud).;

(g)     yn lle paragraff 7, rhodder—

 Sgil-gynhyrchion anifeiliaid

7. Ni chaiff neb fewnforio i Gymru sgil-gynnyrch anifail y mae Erthygl 48 o Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 yn gymwys iddo oni bai ei fod yn cael ei fewnforio yn unol â’r Erthygl honno.;

(22) Yn Rhan 2, ym mharagraff 9, cyn “Rheoliad” mewnosoder “mewnforio adar penodol ac amodau cwarantîn at ddiben”.

(23) Yn Atodlen 3, ym mharagraff 5 —

(a)     yn y pennawd, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “rhan arall o’r Deyrnas Unedig”;

(b)     ar ôl “chynhyrchion” mewnosoder “o drydedd wlad”;

(c)     yn lle “Aelod-wladwriaeth arall neu ran” mewnosoder “rhan”.

 

 

 

 

 

 

 

 

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig,

un o Weinidogion Cymru

Dyddiad


 



([1])           2018 p. 16.

([2])           O.S. 2008/1040 (Cy. 110) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/398 (Cy. 48); ceir diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([3])           O.S. 2011/2379 (Cy. 252), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([4])           OJ Rhif L 94, 31.3.2004, t. 63.